Yr ochr draw i'r bedd, Y saint fydd ar ei wedd: Hwy gânt i gyd Fwynhau ei hyfryd hedd; A'u holl ganiadau yn gytûn Fydd byth am gariad Tri yn Un, Ac am dragwyddol arfaeth, Yn iachawdwriaeth dyn! Mae tyrfa fawr, heb ri', Fu ar ein daear ni, Dan lawer loes, A llid, a chroes, a chri, Yn awr mewn bywyd, hyfryd hoen, Ger bron gorseddfainc Duw a'r Oen Heb deimlo mwy flinderau, Effeithiau llid a phoen! Fe dderfydd dwyn y groes Yn lân, a phob rhyw loes; Cawn adaw'r byd, A'r adfyd - bèr yw'r oes: Bydd Seion wych mewn siriol wawr, 'Nol codi o'r llwch, a gado'r llawr Ar ddysglaer wedd ei Phriod, Yn moli'r Duwdod mawr!1 : Siarl Mark 1720-95 2-3: Grawnsypiau Canaan 1795
Tonau [6646.8876]: gwelir: I Ddafydd llawenhawn Mae llais y durtur fwyn Mae tyrfa fawr heb ri Mae udgorn Jubili |
On the far side of the grave, The saints shall be in his likeness: They shall all get To enjoy his delightful peace; And all their songs in agreement Shall be forever about the love of Three in One, And about an eternal purpose In saving man! There is a great throng, without number, That were on our earth, Under many a pang, And wrath, and cross, and cry, Now in life, delightfully lively, Before the throne of God and the Lamb Feeling no more griefs, The effects of wrath and pain! Bearing the cross shall cease Completely, and every kind of anguish; We shall get to leave the world, And the adversity - short is the age: Zion shall be brilliant in a cheerful dawn, After rising from the dust, and leaving the ground In the brilliant likeness of her Spouse, Praising the great Trinity!tr. 2023 Richard B Gillion |
|